Croeso
Mae dalgylch Cyngor Cymuned Llanwnda yn cynnwys pentrefi Rhosgadfan, Rhostryfan, Rhos Isaf, Dinas, Llanwnda a Saron.
Y dref agosaf yw Caernarfon gyda’i chastell hanesyddol.
Mae oddeutu 2000 o bobl yn byw mewn tua 800 o gartrefi o fewn dalgylch Llanwnda. Ceir yma dair ysgol gynradd, Rhosgadfan, Rhostryfan ac Ysgol Felinwnda, a cheir hefyd nifer o fusnesau bychain yn cynnwys gwestai fferm, modurdai, tai bwyta a siopau nwyddau awyr agored.
Prif atyniad yr ardal yw’r tirwedd godigog, gyda’i mynyddoedd hardd, llwybrau cyhoeddus niferus a chyfleon i wylio a bod yn rhan o fyd natur anhygoel.
Cyngor CymunedCyfarfod
Nesaf
Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn brydlon am 7y.h ar y tryddydd nos Fercher yn fisol ni chynhelir cyfarfodydd fis Awst nac Rhagfyr
Rhaglenni
Disgwyl Cynnwys...
Adroddiad
Blynyddol
Mae’n ofynnol i bob Cyngor Cymuned, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol am flaenoriaethau, gweithgareddau a llwyddiannau’r Cyngor dros y flwyddyn flaenorol.
